08/03/2009

Cymysgedd

Rhai penwythnosau'n ol mi fuon ni ym Manceinion am ddeuddydd o wylie. Y prif reswm oedd i fynd i weld y Kaiserchiefs yn canu yn yr MEN Arena. Noson dda 'fyd - band gwych, llawn egni, gitars, dryms a lot fawr iawn o swn! Y pnawn cyn y gig mi deithion ni allan i'r Salford Quays ar y tram i weld oriel LS Lowry. Mae llunie Lowry yn adnabyddus tu hwnt, gyda'r cefndiroedd golau a'r ffigyrau tenau yn rhuthro i'w gwaith yn ffatrioedd a phyllau glo gogledd Lloegr. Treuliodd y rhan helaeth o'i fywyd yn paentio tirluniau diwydiannol a threfol yn ardal Manceinion. Yr hyn a oedd yn ddiddorol i ddarganfod oedd ei fod wedi paentio nifer fawr o dirluniau gwledig a morol a phortreadau yn ogystal. Roedd yn gymeriad cymhleth, nad oedd yn falch o gwbwl o'i swydd fel casglwr rhent, ac a oedd yn ol y son yn gwneud pethau rhyfedd fel cadw clociau ei dy ar amseroedd gwahanol, a chadw ces tu fewn i'r drws ffrynt fel ei fod yn medru esgus ei fod ar fin gadael pe bai rhywun yn galw!

Fel portreadwr yr ardaloedd diwydiannol, dosbarth gweithiol, roedd yn ddiddorol gweld bod y ganolfan siopa enfawr gyferbyn a'r oriel wedi ei enwi ar ol ei hefyd. 'Sgwn i beth fyddai ei farn?!

Ar y lon hir yn ol i Aberystwyth drwy'r Wyddgrug, bu'n rhaid galw mewn i ganolfan Aberangell, oherwydd roedd Y Gler, sef y tim talwrn yr ydw i ag Eurig Salisbury, Iwan Rhys ac Osian Rhys Jones (Corrach) yn aelodau ohono, yn recordio gornest yn y rownd 1af yn erbyn tim Talybont. Roedd gornest rhwng Maldwyn a Phenllyn yn cael ei recordio yn ogystal. Dyma'r cywydd y gwnes i ei darllen (mae gweddill y testunau i'w gweld ar wefan y talwrn (ar wefan y BBC).

Darlun

Rwy’n bod fel rhes o godau,

Yn un rhif mewn cyfrif cau,

Gwnaed i mi, yn gnawd mwyach,

Y data mân, bychan, bach,

O’u cau yn y ffeiliau cudd,

O’u creu nhw fel croen newydd

Mae lluniau a’m holl hanes

Yn rhifau llwyd, er fy lles.

Y sgrîn hon yw f’esgyrn i,

Wyneb a wnaed ohoni,

Wyneb yr holl ddarluniau

Sy’n un rhif mewn cyfrif cau.


Ymateb i'r feirniadaeth a'r anogaeth ddigon teg ar flog Prysor yn ddiweddar yw'r cywydd yma. Y bwriad i gyflwyno cardiau adnabod yw'r cyd destun. Mae'r ffaith ein bod nawr i rhyw raddau yn cael ein diffinio gan gyfrineiriau, ar gyfer cyfrif ebost, facebook, flickr, blog, siopa ar lein, bancio ar lein ayb ayb yn un rheswm y tu ol y cywydd. Yn bwysicach, mae'r bwriad i gyflwyno cardiau adnabod er mwyn gwarchod ein diogelwch ni oll yn berygl cynyddol. Yr hyn sydd yn gwylltio rhywun yw bod y cardiau adnabod yn cael eu cyfiawnhau fel rhywbeth sydd 'er ein lles' ni. Dyma fy ngherdd gyntaf i ar y pwnc yma beth bynnag, - y cyntaf o nifer!

Yn y rhifyn diweddaraf o'r cylchgrawn Barn mae Dyfrig Jones yn ei olygyddol yn gofyn (gan ddefnyddio blog prysor fel sbardun i'r drafodaeth) a yw'r mudiad cenedlaethol yn anwybyddu hawliau dynol wrth ganolbwyntio ar hawl yr unigolyn (neu hawl y gymuned) i fyw drwy gyfrwng y Gymraeg. Yr unig beth y buaswn i yn dadlau yn fanna yw nad yw sicrhau un yn golygu anwybyddu'r llall. Mae'r un frwydr wrth wraidd y ddau, sef brwydr dros ddyfodol amrywiaeth yn wyneb unffurfiaeth, o blaid rhyddid yn wyneb caethiwed. Nid oeddwn yn ymwybodol bod sosialwyr yn ddilornus o hawliau dynol, yn wir mi fuaswn i yn dadlau bod yr hawl i gartref, yr hawl i gyflog teg a bwyd ar y bwrdd yn hawliau unigol ac yn hawliau cymunedol, ac yn greiddiol i sosialaeth. Mae nhw i'n sosialaeth i, beth bynnag.

No comments:

Post a Comment