10/03/2009
Arswyd y byd!
Mi ydw i'n ffan mawr o ffilmiau arswyd, ac wedi bod erioed. Wrth gwrs, mae'n well gen i'r rhai da, sydd yn gwneud ichi lanw'ch trowsus gan ddefnyddio dulliau cynnil (The Omen a Halloween er engrhaifft), ond mi wnai wylio'r rhai gwael hefyd (ffilmiau slasher y 90'au er engrhaifft). Mae The Unborn rhywle yn y canol, ychydig yn agosach at yr ail fath na'r math cyntaf. Mi oedd yn defnyddio technegau sydd wedi dod yn boblogaidd yn y genre yn y blynyddoedd diwethaf - plant bach dieflig yn troi lan lle 'dy'n nhw ddim i fod yn sbio arnoch chi, pobl yn edrych mewn drychau yna'n edrych i ffwrdd, ac yna'n edrych yn ol a gweld rhywbeth yno, fel arfer gyda cherddoriaeth yn newid o fod yn dawel i fod yn ddramatig. Roedd The Unborn rhywbeth yn debyg, gyda dybbuk (rhyw fath o ysbryd) yn dilyn aelodau o'r un teulu ar hyd y cenedlaethau ar ol cael ei ryddhau gan arbrofion genetig yng ngwersylloedd y Natsiaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Er gwaethaf y stori anhygoel anghredadwy, mae'r ffilm yn llwyddo i roi braw. Mae'r ffilm yn colli ei hygrededd pan mae hen foi mewn cartref henoed yn rhuthro ar draws y llawr ar ol hen fenyw ar ei bedwar ar ol troi ei ben wyneb i waered. Ar ol hynna, roedd popeth ychydig yn anghredadwy!
08/03/2009
Cymysgedd
Rhai penwythnosau'n ol mi fuon ni ym Manceinion am ddeuddydd o wylie. Y prif reswm oedd i fynd i weld y Kaiserchiefs yn canu yn yr MEN Arena. Noson dda 'fyd - band gwych, llawn egni, gitars, dryms a lot fawr iawn o swn! Y pnawn cyn y gig mi deithion ni allan i'r Salford Quays ar y tram i weld oriel LS Lowry. Mae llunie Lowry yn adnabyddus tu hwnt, gyda'r cefndiroedd golau a'r ffigyrau tenau yn rhuthro i'w gwaith yn ffatrioedd a phyllau glo gogledd Lloegr. Treuliodd y rhan helaeth o'i fywyd yn paentio tirluniau diwydiannol a threfol yn ardal Manceinion. Yr hyn a oedd yn ddiddorol i ddarganfod oedd ei fod wedi paentio nifer fawr o dirluniau gwledig a morol a phortreadau yn ogystal. Roedd yn gymeriad cymhleth, nad oedd yn falch o gwbwl o'i swydd fel casglwr rhent, ac a oedd yn ol y son yn gwneud pethau rhyfedd fel cadw clociau ei dy ar amseroedd gwahanol, a chadw ces tu fewn i'r drws ffrynt fel ei fod yn medru esgus ei fod ar fin gadael pe bai rhywun yn galw!
Fel portreadwr yr ardaloedd diwydiannol, dosbarth gweithiol, roedd yn ddiddorol gweld bod y ganolfan siopa enfawr gyferbyn a'r oriel wedi ei enwi ar ol ei hefyd. 'Sgwn i beth fyddai ei farn?!
Ar y lon hir yn ol i Aberystwyth drwy'r Wyddgrug, bu'n rhaid galw mewn i ganolfan Aberangell, oherwydd roedd Y Gler, sef y tim talwrn yr ydw i ag Eurig Salisbury, Iwan Rhys ac Osian Rhys Jones (Corrach) yn aelodau ohono, yn recordio gornest yn y rownd 1af yn erbyn tim Talybont. Roedd gornest rhwng Maldwyn a Phenllyn yn cael ei recordio yn ogystal. Dyma'r cywydd y gwnes i ei darllen (mae gweddill y testunau i'w gweld ar wefan y talwrn (ar wefan y BBC).
Fel portreadwr yr ardaloedd diwydiannol, dosbarth gweithiol, roedd yn ddiddorol gweld bod y ganolfan siopa enfawr gyferbyn a'r oriel wedi ei enwi ar ol ei hefyd. 'Sgwn i beth fyddai ei farn?!
Ar y lon hir yn ol i Aberystwyth drwy'r Wyddgrug, bu'n rhaid galw mewn i ganolfan Aberangell, oherwydd roedd Y Gler, sef y tim talwrn yr ydw i ag Eurig Salisbury, Iwan Rhys ac Osian Rhys Jones (Corrach) yn aelodau ohono, yn recordio gornest yn y rownd 1af yn erbyn tim Talybont. Roedd gornest rhwng Maldwyn a Phenllyn yn cael ei recordio yn ogystal. Dyma'r cywydd y gwnes i ei darllen (mae gweddill y testunau i'w gweld ar wefan y talwrn (ar wefan y BBC).
Darlun
Rwy’n bod fel rhes o godau,
Yn un rhif mewn cyfrif cau,
Gwnaed i mi, yn gnawd mwyach,
Y data mân, bychan, bach,
O’u cau yn y ffeiliau cudd,
O’u creu nhw fel croen newydd
Mae lluniau a’m holl hanes
Yn rhifau llwyd, er fy lles.
Y sgrîn hon yw f’esgyrn i,
Wyneb a wnaed ohoni,
Wyneb yr holl ddarluniau
Sy’n un rhif mewn cyfrif cau.
Ymateb i'r feirniadaeth a'r anogaeth ddigon teg ar flog Prysor yn ddiweddar yw'r cywydd yma. Y bwriad i gyflwyno cardiau adnabod yw'r cyd destun. Mae'r ffaith ein bod nawr i rhyw raddau yn cael ein diffinio gan gyfrineiriau, ar gyfer cyfrif ebost, facebook, flickr, blog, siopa ar lein, bancio ar lein ayb ayb yn un rheswm y tu ol y cywydd. Yn bwysicach, mae'r bwriad i gyflwyno cardiau adnabod er mwyn gwarchod ein diogelwch ni oll yn berygl cynyddol. Yr hyn sydd yn gwylltio rhywun yw bod y cardiau adnabod yn cael eu cyfiawnhau fel rhywbeth sydd 'er ein lles' ni. Dyma fy ngherdd gyntaf i ar y pwnc yma beth bynnag, - y cyntaf o nifer!
Yn y rhifyn diweddaraf o'r cylchgrawn Barn mae Dyfrig Jones yn ei olygyddol yn gofyn (gan ddefnyddio blog prysor fel sbardun i'r drafodaeth) a yw'r mudiad cenedlaethol yn anwybyddu hawliau dynol wrth ganolbwyntio ar hawl yr unigolyn (neu hawl y gymuned) i fyw drwy gyfrwng y Gymraeg. Yr unig beth y buaswn i yn dadlau yn fanna yw nad yw sicrhau un yn golygu anwybyddu'r llall. Mae'r un frwydr wrth wraidd y ddau, sef brwydr dros ddyfodol amrywiaeth yn wyneb unffurfiaeth, o blaid rhyddid yn wyneb caethiwed. Nid oeddwn yn ymwybodol bod sosialwyr yn ddilornus o hawliau dynol, yn wir mi fuaswn i yn dadlau bod yr hawl i gartref, yr hawl i gyflog teg a bwyd ar y bwrdd yn hawliau unigol ac yn hawliau cymunedol, ac yn greiddiol i sosialaeth. Mae nhw i'n sosialaeth i, beth bynnag.
27/02/2009
Post Cyntaf
Helo bawb!
Hywel Griffiths ydw i, ac hwn yw fy mlog annibynnol cyntaf. Roedd gen i flog (aflwyddiannus!) ar wefan Cymdeithas yr Iaith pan oeddwn i'n gadeirydd ar y mudiad, ond mae darllen rhai o'r blogiadau diddorol sydd mas 'na (trwy gyfrwng y blogiadur a maes-e), wedi tanio'r awydd i fynd ati eto (neu efallai mai chwilio am unrhywbeth i wneud heblaw am sgwennu fy noethuriaeth ydw i, pwy a wyr!). Llenyddiaeth, barddoniaeth a chynganeddu yw fy mhrif ddiddordebau, a dyna dwi'n gobeithio blogio amdanynt fan hyn, er mae'n siwr y byddai'n mentro weithiau i ddyfroedd dyfnion, peryglus gwleidyddiaeth. Mae'r ddau faes ynghlwm a'i gilydd i mi, mae un yn bwydo'r llall. Mae teitl y blog - banerog - yn ddyfyniad o un o sonedau Niclas y Glais, bardd a chomiwnydd a oedd canu am ei wleidyddiaeth sosialaidd gyda bydolwg Gymreig rhyngwladol. 'Yfory' yw teitl y soned lle mae'n son am weld 'llu banerog a'i lumanau' ar chwyldro'n agosau.
Heno mae'r tricolore yn cyhwfan yn uwch na'r ddraig goch, ac mae gobaith am gamp lawn yn sarn. Gwely amdani!
Subscribe to:
Comments (Atom)
